Community Wellbeing Officer (Pembrokshire)
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £19,544 - £22,462 |
Location: | County Hall Pembroke |
Region: | Carmarthen |
Job Type: | Temporary - Full Time |
Vacancy Group: | Delta Wellbeing |
Category: | Delta Wellbeing |
Closing Date: | 12/09/2019 |
Date Posted: | 12/04/2019 |
Reference: | 028880 |
Description
Dyddiad Cau : 09/12/2019
Swyddog Llesiant Cymunedol (Sir Benfro)
(Dros dro am 12 mis oherwydd Cyllid)
£19,544 - £22,462 (Gradd E)
Llawn Amser - Dydd Llun i Ddydd Gwener
Mae Llesiant Delta yn cynnig gwasanaeth trafod galwadau/cyswllt aml-swyddogaeth 24x7 ledled de-orllewin Cymru, sydd ar gael i bobl sy'n defnyddio larymau cymdeithasol. Hefyd mae'n delio â galwadau brys y tu allan i oriau ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor ac mae'n fan cyswllt cychwynnol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn Sir Gaerfyrddin.
Mae nifer o swyddi ar gael ar gyfer unigolion blaengar, hyblyg a brwdfrydig a fydd yn rhagori wrth weithio fel rhan allweddol o'n tîm, er mwyn darparu model newydd cyffrous o wasanaethau rhagweithiol Gofal trwy Gymorth Technoleg, a hynny fel rhan o brosiect Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru ledled rhanbarth Bwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru.
Bydd deiliaid y swyddi yn cael eu cyflogi gan Llesiant Delta yn Sir Benfro drwy un o dri sefydliad partner: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yng Nghyfarwyddiaeth Cymunedau Sir Benfro; Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), yn y tîm Cysylltwyr Cymunedol; a'r Groes Goch Brydeinig, yn y tîm Gweithwyr Achos PIVOT.
Yn unol â'r model gwasanaeth newydd, bydd angen i chi gynnal asesiadau Llesiant Rhagweithiol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliadau cymunedol, gan roi cymorth dilynol ac adolygu sefyllfaoedd fel y bo'n briodol. Byddwch yn aelod allweddol o Dîm Sir Benfro gan ddarparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ynghylch gwasanaethau cymunedol i'r cyhoedd, asiantaethau allanol, cydweithwyr ym maes iechyd, a rhanddeiliaid eraill y mae angen cymorth arnynt.
Byddai ymwybyddiaeth o'r materion sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phobl oedrannus neu bobl agored i niwed yn ddymunol, ynghyd â gwybodaeth am ofal cymdeithasol, a/neu wasanaethau eraill a ddarperir gan yr awdurdod lleol, gwasanaethau iechyd a'r 3ydd sector.
Dylai ymgeiswyr hefyd allu cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth eang o bobl a darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid dros y ffôn ac yn bersonol.
Byddwch yn derbyn rhaglen hyfforddiant sefydlu gynhwysfawr pan fyddwch yn ymuno â ni, a hyfforddiant parhaus i'ch helpu i ddatblygu.
Mae Cymraeg llafar yn ddymunol i gyflawni'r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd ddydd Mercher 11eg, Dydd Iau 12eg a Dydd Gwener 13eg Rhagfyr
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Carla Dix drwy ffonio 0300 333 2222.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi .pdf o'r Proffil Swydd a’r Fanyleb Person.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.
In order to apply for this vacancy, you must be able to supply the required answers to the following questions:
- Can you provide evidence that you have the right to live and work in the UK?
Downloads:
Vacancy Links:
Benefits | |
---|---|
Salary: | Salary |
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Carla Dix |
Telephone: | 0300 333 2222 |
Email Address: | Carla.Dix@Deltawellbeing.org.uk |